Cwmni Theatr Maldwyn - Ann!

£5.99
Mewn Stock
SKU
Cwmni Theatr Maldwyn Ann! SCD2446

Rhifnod : Sain SCD2446
Label: Sain
Fformat: Boxed Set
Dyddiad Rhyddhau: 2004

Cyfansoddwyd y sioe ‘Ann!’ ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn Meifod. Derbyniodd Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts gomisiwn gan S4C i ysgrifennu sioe gerdd newydd ar fywyd yr emynyddes enwog o Ddolwar Fach, a chynhyrchwyd y sioe ar gyfer y teledu gan Hefin Owen (Teledu Opus).

Mae troi cynhyrchiad llwyfan a theledu yn Gryno Ddisg yn dasg wahanol. Gan fod nifer o ddigwyddiadau yn weladwy yn unig yng nghyd-destun y gerddoriaeth, tasg anodd yw ceisio trosglwyddo hynny i recordiad SAIN.

Er hyn i gyd, gobeithio y bydd y recordiad hwn yn fodd i’r miloedd a welodd y sioe gael ail-fyw y profiad a gawsant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn theatrau ac yny darllediad ar S4C, ac i’r sawl na welodd y cyflwyniad llwyfan gael mwynhau’r profiad o’r newydd.

Y sioe gerdd wefreiddiol yn seiliedig ar fywyd yr emynyddes enwog o Ddolwar Fach.

Rhestr y Traciau  

  1. Gwna fi fel pren planedig
  2. Requiem i Ann (1)
  3. Paratoi am y ffair
  4. Ti yw’r aderyn ar fore o Fai (1)
  5. Dyma ddiwrnod (Ffair Mabsant Llanfyllin)
  6. Temlais ei wres
  7. Awdwr Hedd
  8. Pwy wyf fi?
  9. Dwi’n oer
  10. Marwoleth ei thad
  11. Gad i mi dy dywys di
  12.  Gwna fi fel pren planedigl
  13. Rwy’n dy weld yn sefyll (1)
  14. Rwy’n dy weld yn sefyll (2)
  15. Ti yw’r aderyn ar fore o fai (2)
  16. Cysga mhlentyn
  17. Requiem i Ann (2)
Write Your Own Review
Yr ydych yn adolygi:Cwmni Theatr Maldwyn - Ann!