Calan - Dinas

£12.98
Mewn Stock
SKU
Calan - Dinas SCD2715

Rhifnod: Sain SCD2715
Label: Sain
Fformat: Albwm
Dyddiad Rhyddhau: 2015

Ffidlau, gitar, accordion, pibau a stepio – a’r cyfan yn ffrwydro wrth i Calan berfformio caneuon ac alawon o’u halbym newydd Dinas. Ryddmau gitar trawiadol a darnau carlamus yn tawelu i ganeuon tyner wrth i’r grwp afieithus gychwyn taith a fydd yn para trwy gydol 2015 i ddathlu rhyddhau’r albym. Ymhlith yr alawon traddodiadol a’r darnau newydd danlli, mae Calan yn rhoi bywyd newydd i chwedl Myrddin a’r Ddwy Ddraig, sy’n egluro sut y daeth y ddraig i fod ar ein baner genedlaethol. Rhyddhawyd y gȃn hon yn fel sengl ym mis Mawrth.

Daw teitl yr albym o’r enw Dinas Emrys, lle digwyddodd drama’r ddwy ddraig y credir eu bod yn cysgu yng nghrombil y mynydd yn nyfnderoedd y llyn dirgel. Yn ystod y nos, byddai’r dreigiau yn deffro ac yn ymladd, gan wneud i’r ddaear grynu. Pan geisidd y Brenin Gwrtheyrn adeiladu castell ar Ddinas Emrys yn y 5ed ganrif, syrthiai’r meini i’r llawr bob tro yr ymladdai’r dreigiau. Yn ȏl y chwedl, achubwyd y dydd gan fachgen nawmlwydd oedd ȃ doniau hud. Ei enw oedd Myrddin, a chafodd Cymru ei dewin a’i draig goch.

Yn 1945, daeth archeolegwyr o hyd i olion llyn a chaer yn dyddio o amser Gwrtheyrn, a’r waliau yn dangos arwyddion o fod wedi eu hail-adeiladu droeon. Felly troediwch yn ofalus…….!

Bydd Calan yn croesi’r mȏr i America am ddwy daith ym Mehefin a Medi. Wedi hynny, yn ȏl i weddill gwledydd Prydain ym mis Tachwedd, o Essex yn y de i Leeds yn y gogledd. Cadwch olwg ar wefan Calan a’u tudalen Facebook drwy’r flwyddyn lle cewch gyfle i ddysgu alaw’r mis a step y mis. Gwersi cyflym ar fideo yw’r rhain ar gyfer unrhywun sydd am ddysgu alawon o’r albym neu ddysgu clocsio.

I gyd-fynd gyda’r daith yn Nhachwedd, gall pobol ymuno yn yr helfa am ddreigiau drwy ddilyn set o gliwiau a gewch yn y gigs ac ar y wefan. Bydd y cliwiau yn arwain at ddwy ddelw o ddraig wedi eu cuddio ger mynydd rhywle yng Nghymru. Pob lwc!

Rhestr y Traciau

  1.   Tale of Two Dragons
  2.   Adar Mân y Mynydd
  3.   Roxy's Birthday Jigs
  4.   A Miner's Life
  5.   Cariad Caerlŷr
  6.   Fflopsi Mopsi
  7.   Y Fwyalchen
  8.   Set Stephen
  9.   Giggly
  10.   Gwdihŵ Shoes
  11.   Y Clychau
  12.   I've Seen You Shine
  13.   Jig-Sô
  14.   Chwedl y Ddwy Ddraig
Write Your Own Review
Yr ydych yn adolygi:Calan - Dinas