Bryn Fon - Y Goreuon (1994-2005)

£9.99
Allan o Stoc
SKU
Bryn Fon - Y Goreuon (1994-2005) SCD2615

Rhifnod: Sain SCD2615
Label: Sain
Fformat: Albwm
Dyddiad Rhyddhau: 2009

18 o draciau mwyaf cofiadwy Bryn Fôn, oddi ar ‘Dyddiau Digymar’, ‘Dawnsio ar y Dibyn’ , ‘Abacus’ a ‘Cam’.

Bu Bryn Fôn yn rheng flaen cantorion poblogaidd Cymru ers dyddiau Crysbas, ac yma clywir deunaw o’i ganeuon gorau o’r degawd o ganol y 90au hyd 2005. Wedi llwyddiant cyfnod Sobin a’r Smaeliaid, cyhoeddodd ddwy albym fel “Bryn Fôn” i gwmni SAIN ar label CRAI yn 1994 (“Dyddiau Di-gymar”) ac 1998 (“Dawnsio ar y Dibyn”), a bu gwerthu cyson ar y ddwy byth ers hynny. Dilynwyd y rhain gan ddwy albym i gwmni aBel yn 2004 (“Abacus”) a 2005 (“Cam”), a chlywir yma ddetholiad o ganeuon oddi ar y bedair.

Cyfrinach llwyddiant Bryn yw’r cyfuniad o lais a thechneg ddi-feth, a chaneuon da; daw’r caneuon hyn o law rhai o gyfansoddwyr a cherddorion amlycaf y maes poblogaidd Cymraeg: Emyr Huws Jones, Alun ‘Sbardun’ Huws, Rhys Parry, Barry ‘Archie’ Jones, Les Morrison a Graham ‘La’ Land. Bu gan Bryn ei hun ran mewn cyfansoddi 8 o’r caneuon, 5 ohonyn nhw ar y cyd gyda’r gitarydd Rhys Parry.

Rhestr y Traciau

  1. Ceidwad y goleudy
  2. Yn y dechreuad
  3. Coedwig ar dân
  4. Rebel wicend
  5. Tre’ Porthmadog
  6. Llythyrau Tyddyn y Gaseg
  7. Gwybod yn iawn
  8. Un funud fach
  9. Yn yr ardd
  10. Abacus
  11. Strydoedd Aberstalwm
  12. Noson ora ‘rioed
  13. Diwedd y gân
  14. Mistar ‘T’
  15. Cân i Ems
  16. Tân ar Fynydd Cennin
  17. Y bardd o Montreal
  18. Cofio dy wyneb
Write Your Own Review
Yr ydych yn adolygi: Bryn Fon - Y Goreuon (1994-2005)