Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (2)

£7.99
Mewn Stock
SKU
Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (2) DVD148

Rhifnod: Sain DVD148

Hwn yw’r ail DVD yn dilyn hynt a helynt y ddau gymeriad mwyaf gwallgo fu erioed ar S4C. Er mai ar gyfer plant y darlledwyd y rhaglenni hyn yn wreiddiol rhwng 1980 ac 1989, mae tystiolaeth go bendant fod Syr Wynff ap Concord a Plwmsan bach yn denu cynulleidfa o ddilynwyr brwd ymysg y genhedlaeth hŷn hefyd! Yn ôl y sôn, mae chwerthin yn gwneud lles i ni gyd beth bynnag ein hoedran, felly mwynhewch lond bol o chwerthin iach yng nghwmni dau o gymeriadau mwyaf slepjanllyd Cymru.

Hyd: tua 150 munud
Iaith: Cymraeg
Lliw: Lliw Llawn
Tystysgrif: E

Penodau

  1. Y Fferm
  2. Y Beipan betrol
  3. Gwers byd natur
  4. Helynt o gwmpas y siop
  5. Cwmni adeiladu Syr Wynff
  6. Prif warden y pentref
Write Your Own Review
Yr ydych yn adolygi:Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (2)