Aled Wyn Davies - Erwau'r Daith

£12.98
Mewn Stock
SKU
Aled Wyn Davies - Erwau'r Daith SCD2734

Rhifnod: Sain SCD2734
Label: Sain
Fformat: Albwm
Dyddiad Rhyddhau: 2015

Mae enw Aled Wyn Davies erbyn hyn yn enw adnabyddus iawn yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n wyneb a llais cyfarwydd ar deledu a radio. Ef yw aelod newydd Tri Tenor Cymru ac mae’n falch iawn o gael rhyddhau eu cân newydd gyntaf ar yr albwm hwn. Cychwynnodd gyrfa Aled fel canwr gwerin ond ar ôl ennill y prif wobrau am ganu gwerin yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 1999, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001, dechreuodd dorri ei gŵys ei hun fel tenor o’r radd flaenaf. Un o brif ragoriaethau gyrfa Aled hyd yn hyn yw’r ffaith iddo ennill yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna, yn 2006, coronwyd ei ymdrechion i gyd pan gipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe. Mae hefyd wedi cael cryn lwyddiant mewn nifer o’n heisteddfodau pwysicaf gan gynnwys “Canwr y Flwyddyn” yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 2005 a’r Rhuban Glas yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2006. Yn 2006, cafodd Aled gyfle arbennig iawn gan “Raymond Gubbay Ltd”, sydd yn hyrwyddwr cyngherddau clasurol, pan berfformiodd mewn cyngherddau o’r Last Night of the Proms gan ganu mewn rhai o brif neuaddau Lloegr fel y Symphony Hall ym Mirmingham a’r Bridgewater Hall ym Manceinion. 

Rhestr y Traciau

  1.   Galwad y Tywysog
  2.   Haleliwia
  3.   Some Enchanted Evening
  4.   L’Alba Sepàra Dalla Luce L’Ombra
  5.   Gweddi Daer
  6.   Musica Proibita
  7.   Y Goleuni (Tri Tenor Cymru)
  8.   Macushla
  9.   Lausanne
  10.   Yr Hen Gerddor
  11.   Y Weddi gyda/with Sara Meredydd
  12.   Hyder
  13.   Arafa Don
  14.   I'll Walk with God
  15.   Granada
  16.   O Holy Night gyda/with Chôr Meibion y Rhos
  17.   Carol y Seren gyda/with Chôr Meibion y Rhos




Write Your Own Review
Yr ydych yn adolygi:Aled Wyn Davies - Erwau'r Daith